Ffon am Dim: 0800 0385778
Ffoniwch ni am sgwrs am yr hyn y medrwn ei gynnig
Ffurflen Gofrestru Cwnsela Arlein
Mae gwasanaeth Yma i Chi Gan Area 43 ar gael i holl gleifion sydd wedi eu cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Ngheredigion sydd rhwng 13 a 30 oed gyda phryderon iechyd meddwl ysgafn i gymhedrol.
Gellir cyflwyno sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb neu ar-lein yn dibynnu ar anghenion y defnyddiwr.
Croesewir atgyfeiriadau gan unrhyw ffynhonnell ar yr amod eu bod yn cael eu cwblhau gyda gwybodaeth a chaniatâd y defnyddiwr; yn ymarferol mae’n well i’r defnyddiwr lenwi’r ffurflen ei hun neu fod yn bresennol pan fydd y ffurflen wedi’i chwblhau.
Ar ôl derbyn y ffurflen gofrestru bydd Area 43 yn anfon cydnabyddiaeth at yr atgyfeiriwr. Bydd yr atgyfeiriad yn cael ei rannu ag un o gwnselwyr Area 43 a fydd yn cysylltu â’r defnyddiwr, gan ddefnyddio’r dull cysylltu sydd orau ganddo i drefnu asesiad.
Pe fyddech angen mwy o wybodaeth cysylltwch gyda counselling@area43.co.uk
Ffurflen Gofrestru cwnsela ar-lein
Nodwch, bod y gwasanaeth hwn dim ond ar gael i’r rheiny 13-30 oed sydd wedi eu cofrestru gyda Meddyg Teulu yng Ngheredigion.
Dolenni