Mae Area 43 wedi ymrwymo i gydraddoldeb, cynhwysiant ac amrywiaeth ac mae’n croesawu ceisiadau gan bob ymgeisydd â chymwysterau addas. Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd gwaith cefnogol lle mae pob unigolyn yn cael ei barchu, ei werthfawrogi a’i gynnwys.

 

***AR GYFER POB CAIS: Os hoffech fwy o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar sut i wneud cais, ebostiwch hr@area43.co.uk neu ffoniwch Sally Hurman yn Area 43 ar 01239 614 566 i ofyn am gopi***

 

Teitl Swydd:          Cwnselydd Pobl Ifanc – Powys

Cytundeb:             Newidiol

Cyflog:                   £124.92 y dydd

Meysydd:              Powys

Buddion:               Cyfraniadau pensiwn: 3% cyflogwr; 5% gweithiwr

20 diwrnod y flwyddyn a gwyliau banc statudol (pro rata)

Cynllyn salwch y cwmni ar ôl cwblhau’r cyfnod prawf

Buddiannau lles

Bydd Area 43 yn darparu goruchwyliaeth gan Gwnselwr/Therapydd

Mae Area 43 yn chwilio am Cwnselwyr Pobl Ifanc i ymuno â’n tîm Powys yn Area 43. Bydd ymgeiswyr yn frwdfrydig ac yn angerddol a gyda gymhwyster Cwnsela/Therapydd, a gydnabyddir gan Gymdeithas Cwnselwyr a Seicolegwyr Prydain (BACP) a/neu gorff lywodraethu perthnasol cydnabyddedig.

Dyddiad Cau:     Erbyn diwedd y ddiwrnod busnes ar 29 Tachwedd 2024

PECYN RECRIWTIO:

Young Persons’ Counsellor Recruitment Pack Powys ENG

Young Persons’ Counsellor Recruitment Pack Powys CYM

 

Teitl y Swydd: Cwnselydd Pobl Ifanc

Cytundeb: Newidiol
Cyflog: £115.57 y dydd
Meysydd: Gorllewin Cymru (Ceredigion, Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro)

Gogledd Ceredigion
Powys
Ar-lein/ Banc

Buddion: Cyfraniadau pensiwn: 3% cyflogwr; 5% gweithiwr 20 diwrnod y flwyddyn a gwyliau banc statudol

Mae Area 43 yn chwilio am Gynghorwyr Pobl Ifanc i ymuno â’n tîm yn Area 43. Mae hwn yn broses recriwtio barhaus a byddem yn annog ymgeiswyr sydd â diddordeb i wneud cais cyn gynted â phosibl oherwydd gall cyfweliadau gael eu cynnal cyn y dyddiad cau. Bydd y swyddi mewn rhai lleoliadau yn Sir Gâr, Ceredigion, Sir Benfro, Powys neu ar-lein, a’r rhain i’w cadarnhau. Bydd ymgeiswyr yn frwdfrydig ac yn angerddol ac yn meddu ar gymhwyster Cwnsela ar lefel diploma neu gyfwerth, a gydnabyddir gan Gymdeithas Cwnselwyr a Seicolegwyr Prydain (BACP).

Os hoffech ragor o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar sut i wneud cais, ebostiwch hr@area43.co.uk neu ffoniwch Sally Hurman yn Area 43 ar 01239 614566 i ofyn am gopi.

 

Rôl:                          Ymddiriedolwr

Cytundeb:                Gwirfoddol

Lleoliad:                   Lleoli yng Ngorllewin Cymru – Aberteifi, Ceredigion, SA43 1DW

                                 Caiff costau teithio rhesymol eu talu.

Ymrwymiad:            Pedwar cyfarfod bwrdd y flwyddyn ynghyd â gofynion ad hoc

 Pwrpas cyffredinol y rôl:

Gan fod y bwrdd yn gyfrifol ac yn atebol am lywodraethu a gweithredu’r elusen, maent yn atebol i raddau amrywiol i amrywiaeth o ddeiliaid diddordeb, gan gynnwys: defnyddwyr gwasanaeth, aelodau, cyllidwyr, y Comisiwn Elusennau, a Thŷ’r Cwmnïau. Rhaid rhoi sylw manwl i’r ddogfen lywodraethol i ddarganfod y math o strwythur sefydliadol a’r ystod o bartïon â diddordeb.

  • Sicrhau bod yr elusen a’i chynrychiolwyr yn gweithredu o fewn fframwaith cyfreithiol a rheoliadol y sector ac yn unol â dogfen lywodraethol y sefydliadau, gan ymdrechu’n barhaus am arfer gorau ym maes llywodraethu.
  • Cynnal y ddyletswydd ymddiriedol a fuddsoddir yn y swydd, gan gyflawni dyletswyddau o’r fath mewn ffordd sy’n ymdrechu’n barhaus am arfer gorau mewn trefn lywodraethol.
  • Pennu cyfeiriad a datblygiad cyffredinol yr elusen trwy lywodraethu da a chynllunio strategol clir
  • Hyrwyddo hyder ac ymddiriedaeth y cyhoedd yn yr elusen.

Os hoffech ragor o wybodaeth a chyfarwyddiadau ar sut i wneud cais, ebostiwch hr@area43.co.uk neu ffoniwch Sally Hurman yn Area 43 ar 01239 614566 i ofyn am gopi.