RACHAEL EAGLES
PRIF SWYDDOG GWEITHREDOL
Ymunais ag Area 43 fel Prif Swyddog Gweithredol yn 2021, yn dilyn amryw o swyddi Prif Swyddog Gweithredol yn y sector elusennol am dros ddegawd. Fy rôl i yw gweithio gyda’n bwrdd ymddiriedolwyr i helpu i lunio, dylunio a darparu gwasanaethau. Rwy’n cael fy ngyrru’n gryf gan fy ngwerthoedd ac ethos, ac yn ceisio gwreiddio’r rhain yn ein gwasanaethau er mwyn sicrhau y caiff anghenion y bobl ifanc eu harwain gan angen ac eu bod yn gydgynhyrchiol, gan weithio â phobl ifanc i sicrhau bod gwasanaethau ‘gan bobl ifanc, i bobl ifanc’.
Hobïau:
Rwy’n hyfforddwr personol cymwys, ac yn fy amser hamdden byddwch yn fy narganfod yn fy nghartref sydd wedi ei addasu’n llawn ar gyfer cryfhau’r corff.
Pethau dwi’n eu caru:
Fy mechgyn a’m ffrindiau gorau
Y filodfa:
Mae gennym gath (Rar Rar), cwningen tŷ (Lord Chicken Nuggets), dau bysgodyn (Black Ice a Strawberry) a dau gi hyfryd (un ohonynt yw ci therapi Area 43, Maisy, a’i ffrind Monty.
Bwyd: Fel mae’r tîm yma’n nodi …. Dwi’n bwyta llawer!
Dyfyniad pwysig yn fy mywyd:
“Don’t waste your time on Jealousy, sometimes you are ahead, sometimes you are behind, the race is long, and In the end its only with yourself”
RYAN DAVIES
DIRPRWY BRIF SWYDDOG GWEITHREDOL
Y minnau sy’n cefnogi Sally, y Prif Swyddog Gweithredol gyda rheolaeth busnes ac ariannol y sefydliad, gan ddarparu adroddiadau i’r Ymddiriedolwyr a noddwyr, hefyd yn gweithio ar gynigion nawdd a thendrau. Rwyf wedi gweithio mewn rheolaeth busnes a chyllidol yn y sector elusennol am y 15 mlynedd diwethaf. O fewn y ganolfan, rwy’n darparu cefnogaeth i’r tîm Galw i mewn ac wir yn mwynhau cyfarfod y bobl ifanc sy’n cysylltu gyda ni.
Hoff Fwyd
Unrhyw beth gyda chorizo neu bysgod.
Hoff Le Cerdded
Traeth Poppit gyda’r llanw mas.
Hoff Anifail
Fy nghi: Blue
LISA HEAD
RHEOLWR CYFATHREBU AC YMGYSYLLTU
Ymunais ag Area 43 yn 2017, cyn hynny roedd fy nghefndir mwyaf mewn marchnata a rheoli digwyddiadau. Rwyf hefyd wedi bod yn Arweinydd Ieuenctid gwirfoddol gyda Chlwb Ieuenctid Llandudoch ers 2011. Yn ystod yr amser yma yn ogystal â rhedeg y clwb, trefnais a rheolais ŵyl gerddoriaeth fach a charnifalau cymunedol gyda cherddoriaeth byw hefyd!
Credaf ei bod hi’n bwysig i herio, yn ogystal â chefnogi pobl ifanc yr wyf yn gweithio gyda hwy, i’w helpu i werthfawrogi gwerth o roi ymdrech mewn i beth bynnag maent yn gobeithio ei gyflawni. Mae gweithio yn Area 43 yn dod â chyfrifoldebau newydd a materion gwahanol, ond fy mhrif nod yw’r un peth; i gynnig y gorau gallaf i bobl ifanc ac i roi’r grym iddynt gyflawni posibiliadau’r dyfodol.
Cyflawniadau mwyaf
Dechreuais astudio gyda’r Brifysgol Agored ym 2011, tra yr oeddwn yn magu dwy ferch fel mam sengl ac yn gweithio’n llawn amser. Rwyf wedi wynebu sawl trawma personol dros y blynyddoedd, ond drwy fod yn benderfynol iawn, llwyddais i oresgyn y trafferthion hynny a derbyniais Ddiploma Addysg Uwch (wedi ei seilio o amgylch gweithio gyda Phlant, Pobl Ifanc a Theuluoedd), a graddiais yn 2017.
Pwy sy’n eich ysbrydoli fwyaf?
Mae fy merched sy’n fy ysbrydoli i’n ddyddiol!
Rwyf hapusaf pan…
Rwy’n cerdded ar y traeth gyda fy nghi Bailey
Dyfyniad sut yr wyf yn byw fy mywyd
“Life isn’t about waiting for the storm to pass, it’s about learning to dance in the rain!” Vivian Greene
BECCA HEAD
RHEOLWR DATBLYGU
Fel nifer o bobl ifanc sy’n cael eu magu yng nghefn gwlad Cymru, symudais i Gaerdydd yn 2016 ar gyfer mynd i’r Brifysgol … roedd yn hollol wahanol i orllewin Cymru: fe wnes i gyrchu profiadau a chyfleoedd nad oeddent wedi’u cynnig i mi yn y gorffennol. Roeddwn yn gallu cofleidio unigoliaeth ac ymgolli ym musnes a chreadigrwydd y ddinas. Ym mis Rhagfyr 2021, oherwydd newid mewn amgylchiadau, symudais adref, ac ym mis Mawrth 2022, fe wnes i ddechrau gweithio fel Gweithiwr Cymorth yn Depo (Caffi Ieuenctid Area 43).
Daeth yn amlwg i mi pan wnes i ddod adref bod pobl ifanc yng Ngheredigion yn parhau i brofi diffyg mynediad at gyfleoedd, gwasanaethau, a chymorth i’w galluogi i ffynnu fel yr oeddwn innau’n gallu. Ym mis Medi 2022, dechreuais fy rôl fel Cydlynydd Partneriaeth Dyfodol Ni ar gyfer Meddwl Ymlaen (rhaglen chwe blynedd, a ariennir gan Gronfa Gymunedol y Loteri Genedlaethol ac a arweinir gan Area 43).
Mae Meddwl Ymlaen yn llygedyn o obaith; prosiect a fydd yn codi lleisiau pobl ifanc, yn mynnu newid ac yn creu mannau diogel i bobl ifanc ar draws y sir.
Mae Partneriaeth Dyfodol Ni yn hanfodol i ddyfodol pobl ifanc yn y maes hwn ac mae fy rôl fel Cydlynydd Partneriaeth yn rhoi cyfle i mi fod yn rhan o’r newid hwnnw.
Rwyf hapusaf pan fyddaf yn:
Dawnsio o amgylch y gegin i’r Sioeau Cerdd mwyaf ‘cheesy ‘a chlasuron Sianel Disney, gyda’r sŵn ar ei uchaf, yn canu ar dop fy llais, gyda gwydraid o win, yn fy mhyjamas.
Pethau dwi’n eu caru:
Taylor Swift. Nosweithiau clyd i mewn. Socs fflwffog.
Dyfyniad sy’n bwysig i mi:
“Never let the fear of striking out keep you from playing the game” – Babe Ruth (neu, os ydych rhywbeth yn debyg i fi, mae o Stori Sinderela
JEMMA KING
RHEOLWR GWASANAETHAU DEPOT
Cefais fy magu yng nghefn gwlad gogledd Sir Benfro lle nad oedd llawer yn digwydd. Teimlais nad oedd gan yr ardal unrhyw beth i mi, felly cyn gynted ag yr oeddwn wedi gorffen yn yr ysgol, penderfynais adael a mynd ati i deithio. Dros y 5 mlynedd nesaf roeddwn yn ôl ac ymlaen yn byw dramor ac yn symud o un swydd i’r llall heb wybod mewn gwirionedd ble roeddwn am fod. Yn y pen draw, penderfynais gwblhau fy ngradd mewn seicoleg a gweithio mewn gwirionedd tuag at fy nod personol fy hun.
Fe wnes i gwblhau fy ngradd yn ystod y cyfyngiadau clo. Fe wnaeth hyn i mi werthfawrogi harddwch a llonyddwch byw yn y wlad nad yw’n cystadlu ag unrhyw wlad rydw i wedi bod iddi. Pan wnes i raddio, doeddwn i ddim yn siŵr pa lwybr gyrfa i’w ddilyn ond roeddwn i’n gwybod fy mod am helpu pobl. Roeddwn i’n gwybod am waith Area 43 gyda phobl ifanc, ac roedd yn rhywbeth oedd yn fy niddori’n fawr. Rwyf bellach yn Uwch weithiwr cymorth, na feddyliais erioed y byddwn yn gallu ei gyflawni. O fod ar goll a symud oddeutu heb unrhyw gyfeiriad, rydw i nawr yn teimlo fy mod yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl, yn cyflawni fy nodau personol fy hun, ac yn rhan o sefydliad sydd wir yn rhoi pobl yn gyntaf.
Mae caffi ieuenctid Depot yn lle diogel i bobl ifanc i gymdeithasu, ceisio cymorth, cyfarfod â phobl newydd, a theimlo eu bod yn cael eu clywed. Mae cymaint o bobl o’m hoedran i, pan fyddaf yn disgrifio beth yw Depot, yn dweud eu bod yn dymuno yr oedd ganddyn nhw rhywbeth fel hyn pan yr oedden nhw’n iau. Nid yn unig y mae’n gyfleuster anhygoel i’r gymuned ifanc, ond mae’n lle gwych i weithio!
Rwyf hapusaf pan fyddaf:
gyda fy nghathod ac yn cerdded fy nghi. Yn eistedd yn yr haul ac yn archwilio natur.
Pethau dwi’n eu caru:
Fy nghathod – Angus, Bluebell a Chubbs a’r ci – Boo, Heulwen, yn ymlwybro drwy’r goedwig, y Môr a Bwyd
Dyfyniad sy’n bwysig i mi:
“Mae pawb yn athrylith. Ond os ydych chi’n barnu pysgodyn yn ôl ei allu i ddringo coeden, bydd yn byw ei fywyd cyfan gan gredu ei fod yn dwp.” – Albert Einstein
CHRISTIE GOYMER
RHEOLWR GWASANAETHAU CWNSELA
Ymunais ag Area 43 fel cwnselydd yn 2021 a dod yn Rheolwr Gwasanaethau Cwnsela yn Haf 2022. Cyn hynny roeddwn yn astudio’n llawn amser ac yn gweithio yn y gymuned gydag oedolion bregus yn eu cefnogi gyda bywyd bob dydd. Rwyf wedi helpu i reoli a datblygu a neuadd bentref sy’n cael ei rhedeg gan elusen ac wedi cynorthwyo i redeg y lleoliad, ei ddigwyddiadau a’i redeg o ddydd i ddydd am bron i 10 mlynedd. Rwyf wedi rheoli fy musnes fy hun yn flaenorol ac ar ôl 15 mlynedd roeddwn eisiau dilyn gyrfa mewn Cwnsela a chefnogi pobl ifanc. Mae Cymuned a Chymorth wedi bod yn fy nghalon erioed. Rwy’n credu mai plant yw ein dyfodol a gallwn eu helpu i ddod o hyd i well hunan a dod y person y maent am fod. Er bod cyfrifoldebau a heriau fy swydd yn Area 43 bob amser yn newid, mae fy mhwrpas yn y pen draw wedi aros yn gyson: darparu’r cymorth gorau posibl i bobl ifanc fel y gallant wireddu eu potensial ar gyfer y dyfodol.
Cyflawniad Mwyaf
Rwyf wedi cael amrywiaeth o heriau personol ar hyd y blynyddoedd, yr wyf wedi llwyddo i’w goresgyn tra hefyd yn manteisio ar y cyfle i ddysgu o fy nghamgymeriadau a ffynnu. Fy nerth a dyfalbarhad yw’r hyn sydd wedi fy ngwneud i’r un ydw i heddiw. Fel rhiant sengl i ddau o blant anhygoel sydd ag anghenion ychwanegol ac yn ystod pandemig byd-eang rwyf wedi cyflawni FdA a BA Anrhydedd: Dosbarth Cyntaf mewn Cwnsela.
Pwy sy’n eich ysbrydoli fwyaf?
Yn gyntaf, fy mhlant. Eu gweld yn tyfu i fod yn ddynion ifanc cryf, penderfynol a chariadus. Yn ail, mae’r bobl ifanc yr wyf wedi cael y fraint o’u cwnsela, yn profi eu twf a’u newid yn ysbrydoledig.
Rwyf hapusaf pan…
Rwyf wedi fy amgylchynu gan fy ffrindiau a theulu agosaf, yn mwynhau’r heulwen, bwyd ardderchog a gwydraid o swigod.
Dyfyniad sut yr wyf yn byw fy mywyd …
“Every moment of life is precious and can never happen again and therefore is a reason to appreciate, be grateful for and celebrate the fact that you are alive..” —Zelig Pliskin
ANDREA GREEN
CYDLYNYDD CWNSELA
Ymunais ag Area 43 yn 2021, ar ôl gweithio yn y sector cam-drin domestig am dros ddegawd yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae gen i angerdd yn gweithio gyda phobl ifanc ac wrth fy modd yn gweithio fel rhan o dîm mor wych. Mae fy rôl yn cynnwys gweithio gyda chwnselwyr ac ysgolion i sicrhau bod y gwasanaeth yn rhedeg mor llyfn â phosib, ac fel rheol fi yw’r un sy’n ateb y ffonau yn y swyddfeydd, ac eithrio ddydd Mercher, sef fy niwrnod i ffwrdd o’r gwaith, lle gellir dod o hyd i mi yn gofalu am fy mam mewn oed ac ŵyr yr hefyd, Ivar.
Hobïau:
Ar hyn o bryd rwy’n ymchwilio i’m coeden deulu
Cerdded y cŵn gyda’r teulu
Pethau dwi’n eu caru:
- Y môr
- Siocled
- Darllen
Dyfyniad pwysig yn fy mywyd:
“Believe you can and you are already halfway there” Theodore Roosevelt
Counselling Team
Mae gennym dîm o gwnsleriaid gwrywaidd a benywaidd sy’n gallu cynnig cwnsela’n ddwyieithog drwy Wasanaeth Cwnsela Ar Sail Ysgolion yng Ngheredigion a Sir Gâr, rydym hefyd yn gallu cynnig cwnsleriaid gwirfoddol yn ein Canolfan yn Aberteifi. Mae ein holl gwnsleriaid yn dal cymwysterau cwnsela cydnabyddedig fyny i o leiaf lefel gradd, gydag ychwanegiad o hyfforddiant arbenigol yn gweithio gyda phlant a phobl ifanc. Mae’n ofynnol iddynt hefyd fod yn Aelodau o BACP (British Association for Counselling and Psychotherapy) neu gywerth.
Bwrdd o Ymddiriedolwyr
Mae ein Bwrdd o Ymddiriedolwyr yn cynnwys nifer o bobl uchel eu parch a phroffesiynol sy’n ymrwymedig i wella bywydau pobl ifanc, yn bennaf rhwng 16-25 oed, yn ein cymuned a’r ardal gyfagos, maent yn cymryd eu cyfrifoldebau wir ddifrif ac yn rhoi o’u hamser yn rhad ac am ddim ar sail gwirfoddol.